Seilwaith digidol newydd i’ch tref
Yn 2023 a 2024, mae trefi ar hyd a lled Powys yn dod yn fwy ‘Smart’ wrth i Gyngor Sir Powys osod Wi-Fi cyhoeddus newydd a’r platfform data agored Patrwm yng nghanol trefi, gan roi i fusnesau bach ac annibynnol y math o fanteision sydd wedi eu cyfyngu’n aml i gadwyni siopau mawr a phlatfformau ar-lein.
Mae’r trefi diweddaraf i elwa o’r seilwaith newydd hwn yn cynnwys Llanfair ym Muallt, Llanfyllin, y Drenewydd, Talgarth a’r Trallwng.
Caiff y cynllun ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac mae’n ategu rhaglen Trefi Smart Cymru gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Sesiynau gwybodaeth ar-lein a gynhelir yn fuan
I wybod mwy am sut y gallant elwa o’r datblygiadau, gwahoddir busnesau lleol a phartion eraill sydd a diddordeb ym mhob tref i sesiwn briffio ar-lein.
Defnyddiwch y dolenni isod i ateb, neu gwiriwch eto yn nes i’r amser am y ddolen Teams.
- Y Drenewydd Dydd Mercher 20 Tachwedd 6pm RSVP
- Llanfyllin Dydd Iau 21 Tachwedd 6pm RSVP
- Y Trallwng Dydd Llun 25 Tachwedd 6pm RSVP
- Llanfair ym Muallt Dydd Mercher 27 Tachwedd 6pm RSVP
- Talgarth Dydd Iau 28 Tachwedd 6pm RSVP
Bydd pob sesiwn yn arddangos sut y gall platfform Patrwm helpu busnesau canol tref a rhanddeiliaid lleol eraill i wneud penderfyniadau a hyrwyddo pa bynnag gymorth digidol ac adnoddau pellach sydd ar gael.
Cynlluniau Gweithredu Trefi Smart
Law yn llaw a hyn, mae Owen Davies Consulting, gyda chymorth VZTA Smart Towns, yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol yn y trefi i archwilio a chynllunio ar gyfer sut y gall dull Trefi Smart helpu eu lle ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Adnoddau
Ewch i'n tudalen Adnoddau i gael dolenni i amrywiaeth helaeth o adnoddau i'ch helpu chi a'ch lle i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol.
Dewiswch dref:
Ynglyn a’r prosiect hwn
Cafodd prosiect Trefi Digidol Powys ei gomisiynu gan ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys a chaiff ei ariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.