Neidio i'r cynnwys

Gwneud Llanfair ym Muallt yn lle gwell gyda thechnoleg ddigidol a data

Seilwaith digidol newydd yn eich tref

Bydd system Wi-Fi gyhoeddus newydd yn cael ei gosod yng nghanol tref Llanfair ym Muallt gan Telemat, y contractwr a benodwyd gan Gyngor Sir Powys, at ddiwedd 2024.

Mae’r seilwaith digidol newydd hwn, ynghyd â seilwaith presennol fel y pyrth LoRaWAN cyheoddus, yn cynnig cyfle cyffrous i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol y dref, y Cyngor Tref a rhanddeiliaid eraill i archwilio sut y gellir defnyddio technoleg a data digidol i wneud Llanfair ym Muallt yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld. Mae Owen Davies Consulting wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Powys i helpu rhanddeiliaid i wneud hyn.

Dywedwch wrthym am eich tref

Dros y mis neu ddau nesaf, hoffem glywed gennych, rydym wedi clywed gennych chi – yn drigolion, busnesau a grwpiau rhanddeiliaid - ynghylch:

  • Pa heriau mae eich tref yn eu hwynebu?
  • Pa gyfleoedd sydd i’ch tref?
  • Sut y gall technoleg a data digidol chwarae rhan yn y rhain yn eich barn chi?
  • Pa brosiectau yn y dref sydd eisoes yn defnyddio technoleg a data digidol?
  • Ydych chi’n teimlo bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth i fanteisio ar botensial technoleg a data digidol?
  • Os na, pa wybodaeth a/neu sgiliau sydd arnoch eu hangen i helpu i wneud hyn? 

I ddweud mwy wrthym, defnyddiwch y dolenni isod i gyrraedd a defnyddio ein Bwrdd Syniadau a/neu Map Rhyngweithiol.

Beth nesaf?

Bydd yr buoch yn rhannu yn ffurfio sail Cynllun Gweithredu Tref Smart newydd ar gyfer y dref, a fydd yn nodi ei flaenoriaethau digidol a syniadau ar gyfer sut y gellir ariannu’r rhain (os bydd angen).

Llinell amser

Gosod seilwaith digidol newydd

Haf 2024 i fis Tachwedd 2024

Ymchwil, ymweliadau tref, cyd-drafod a dadansoddi barn rhanddeiliaid lleol

Mis Tachwedd 2024

Sesiynau briffio trefi

Mis Tachwedd 2024

Datblygu Cynlluniau Gweithredu Trefi Smart

Misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2024

Cymorth digidol ychwanegol i randdeiliaid lleol (fel bo’r angen)

Dechrau 2025

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanfair ym Muallt

Ynglyn a’r prosiect hwn

Cafodd prosiect Trefi Digidol Powys ei gomisiynu gan ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys a chaiff ei ariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.