Neidio i'r cynnwys

Gwneud Llanfyllin yn lle gwell gyda thechnoleg ddigidol a data

Seilwaith digidol newydd yn eich tref

Bydd system Wi-Fi gyhoeddus newydd yn cael ei gosod yng nghanol tref Llanfyllin gan Telemat, y contractwr a benodwyd gan Gyngor Sir Powys, at ddiwedd 2024.

Mae’r seilwaith digidol newydd hwn, ynghyd â seilwaith presennol fel y pyrth LoRaWAN cyheoddus, yn cynnig cyfle cyffrous i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol y dref, y Cyngor Tref a rhanddeiliaid eraill i archwilio sut y gellir defnyddio technoleg a data digidol i wneud Llanfyllin yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld. Mae Owen Davies Consulting wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Powys i helpu rhanddeiliaid i wneud hyn.

Sesiynau briffio ar-lein

Mae’r cyflwyniad yn rhoi mwy o wybodaeth am y Wi-Fi cyhoeddus newydd ac yn dangos sut i ddefnyddio’r llwyfan data agored Patrwm i weld data am eich tref a’i chymharu ag eraill yng Nghymru.



Dywedwch wrthym am eich tref

Dros y mis neu ddau nesaf, hoffem glywed gennych, rydym wedi clywed gennych chi – yn drigolion, busnesau a grwpiau rhanddeiliaid - ynghylch:

  • Pa heriau mae eich tref yn eu hwynebu?
  • Pa gyfleoedd sydd i’ch tref?
  • Sut y gall technoleg a data digidol chwarae rhan yn y rhain yn eich barn chi?
  • Pa brosiectau yn y dref sydd eisoes yn defnyddio technoleg a data digidol?
  • Ydych chi’n teimlo bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth i fanteisio ar botensial technoleg a data digidol?
  • Os na, pa wybodaeth a/neu sgiliau sydd arnoch eu hangen i helpu i wneud hyn? 

I ddweud mwy wrthym, defnyddiwch y dolenni isod i gyrraedd a defnyddio ein Bwrdd Syniadau a/neu Map Rhyngweithiol.

Beth nesaf?

Bydd yr buoch yn rhannu yn ffurfio sail Cynllun Gweithredu Tref Smart newydd ar gyfer y dref, a fydd yn nodi ei flaenoriaethau digidol a syniadau ar gyfer sut y gellir ariannu’r rhain (os bydd angen).

Timeline

Gosod seilwaith digidol newydd

Haf 2024 i fis Tachwedd 2024

Ymchwil, ymweliadau tref, cyd-drafod a dadansoddi barn rhanddeiliaid lleol

Mis Tachwedd 2024

Sesiynau briffio trefi

Mis Tachwedd 2024

Datblygu Cynlluniau Gweithredu Trefi Smart

Misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2024

Cymorth digidol ychwanegol i randdeiliaid lleol (fel bo’r angen)

Dechrau 2025

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanfyllin

Ynglyn a’r prosiect hwn

Cafodd prosiect Trefi Digidol Powys ei gomisiynu gan ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys a chaiff ei ariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.