Neidio i'r cynnwys

Gwneud Crug Hywel yn lle gwell gyda thechnoleg a data digidol

Wi-Fi cyhoeddus newydd yn eich tref

Bydd system Wi-Fi cyhoeddus newydd yn cael ei gosod yng Nghrug Hywel gan y contractwr a benodwyd gan Gyngor Sir Powys, Telemat, yn yr wythnosau nesaf.

Bydd y seilwaith ddigidol newydd yma, ynghyd â seilwaith sydd yma eisoes fel y pyrth LoRaWAN cyhoeddus, yn cynnig cyfle cyffrous i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol y dref, y Cyngor Tref a rhanddeiliaid eraill i archwilio sut y gellir defnyddio technoleg a data digidol i wneud Crug Hywel yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld.

Mae dau gwmni Cymreig, Owen Davies Consulting a Cwmpas, wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Powys i helpu rhanddeiliaid i wneud hyn.

Cynllun Lle Digidol Crug Hywel

Roedd gosod system Wi-Fi cyhoeddus yn un o’r camau allweddol a nodwyd yng Nghynllun Lle Digidol Crug Hywel, a gynhyrchwyd gan Owen Davies Consulting ar ran rhanddeiliaid y dref yng ngwanwyn/haf 2022.

Mae’r Cynllun Lle Digidol yn cynnwys asesiad o sut y gellir defnyddio digidol, technoleg a data i helpu gweithredu blaenoriaethau Crug Hywel, a phenderfynu pa gamau y dylid eu cymryd i wneud i hyn ddigwydd.

Gallwch weld y Cynllun llawn trwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Helpu gyda datblygu eich sgiliau digidol

Fel rhan o’r rhaglen hon, gall arbenigwyr yn Cwmpas gynnig help penodol i’ch busnes neu sefydliad cymunedol gyda datblygu sgiliau digidol.

I wybod mwy neu i gofrestru, cwblhewch y ffurflen hon neu cysylltwch â Marc Davies ar marc.davies@cwmpas.coop.

Dewiswch opsiwn ar gyfer Crug Hywel

Ynglyn a’r prosiect hwn

Cafodd gwaith Owen Davies Consulting a Cwmpas ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys a chaiff ei ariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU  yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.