Neidio i'r cynnwys

Gwneud Llanfair Caereinion yn lle gwell gyda thechnoleg ddigidol a data

Wi-Fi newydd cyhoeddus yn eich tref

Cafodd system Wi-Fi cyhoeddus newydd ei gosod yn Llanfair Caereinion gan y contractwr a benodwyd gan Gyngor Sir Powys, Telemat, yng ngwanwyn 2023.

Mae’r seilwaith digidol newydd hwn, ynghyd â’r seilwaith presennol fel y pyrth LoRaWAN cyhoeddus, yn cynnig cyfle cyffrous i drigolion, busnesau, grwpiau cymunedol, cyngor tref a rhanddeiliaid eraill y dref i archwilio sut y gellir defnyddio technoleg a data digidol i wneud Llanfair Caereinion yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld. Mae dau gwmni Cymreig, Owen Davies Consulting a Cwmpas, wedi cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Powys i helpu rhanddeiliaid i wneud hyn.

Dywedwch wrthym am eich tref

Dros y mis neu ddau ddiwethaf, rydym wedi clywed gennych chi – yn drigolion, busnesau a grwpiau rhanddeiliaid - ynghylch:

  • Pa heriau mae eich tref yn eu hwynebu?
  • Pa gyfleoedd sydd i’ch tref?
  • Sut y gall technoleg a data digidol chwarae rhan yn y rhain yn eich barn chi?
  • Pa brosiectau yn y dref sydd eisoes yn defnyddio technoleg a data digidol?
  • Ydych chi’n teimlo bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth i fanteisio ar botensial technoleg a data digidol?
  • Os na, pa wybodaeth a/neu sgiliau sydd arnoch eu hangen i helpu i wneud hyn? 

I ddweud mwy wrthym, defnyddiwch y dolenni isod i gyrraedd a defnyddio ein Bwrdd Syniadau a/neu Map Rhyngweithiol.

Beth nesaf?

Bydd yr buoch yn rhannu yn ffurfio sail Cynllun Creu Lleoedd Digidol newydd ar gyfer y dref, a fydd yn nodi ei flaenoriaethau digidol a syniadau ar gyfer sut y gellir ariannu’r rhain (os bydd angen).

Bydd cynnwys y wefan yn newid dros yr wythnosau nesaf wrth i’r prosiect ddatblygu, felly bydd yn werth ichi gael golwg arni’n rheolaidd. Ar ôl i’r prosiect cychwynnol ddod i ben (haf 2023), bydd y wefan yn parhau’n fyw i rannu canlyniadau’r gwaith a dolenni i ffynonellau defnyddiol o wybodaeth.

Cadwch mewn cysylltiad

Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am gynnydd y prosiect, a/neu os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant sgiliau digidol wedi’i ariannu’n llawn yn y dyfodol, defnyddiwch y ddolen isod i roi eich manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost) fel y gallwn gadw mewn cysylltiad.

I wybod mwy, cysylltwch â Marc Davies gan ddefnyddio marc.davies@cwmpas.coop.

Llinell amser

Ymchwil cefndir, cyd-drafod cychwynnol, ymweliadau â’r trefi, dadansoddi

Mawrth 2023 i Ebrill 2023

Gosod seilwaith ddigidol newydd

Ebrill 2023 i Fehefin 2023

Gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein i gael ymateb ar y syniadau a helpu datblygu Cynllun Creu Lleoedd Digidol drafft

Mai 2023

Ymgynghori ar syniadau cychwynnol

Mai 2023

Addasu’r Cynllun Creu Lleoedd Digidol ar sail adborth

Mai 2023 i Fehefin 2023

Trosglwyddo fersiwn gyntaf Cynllun Creu Lleoedd Digidol y dref i randdeiliaid lleol

Mai 2023 i Fehefin 2023

Rhaglen beilot o gymorth sgiliau digidol i drigolion/busnesau/sefydliadau cymunedol y dref, a gyflwynir gan Cwmpas

Mai 2023 i Awst 2023

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanfair Caereinion

Ynglyn a’r prosiect hwn

Cafodd gwaith Owen Davies Consulting a Cwmpas ei gomisiynu gan Gyngor Sir Powys a chaiff ei ariannu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU  yn biler canolog agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU, ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y Deyrnas Unedig wrth fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.